Gêm gwpan, rhwng dau dîm cyfartal, gyda'r gêm, yn rownd gyderfynol yng nghystadleuaeth Plat Sir Caerfyddin, yn gorffen gyda'r sgor yn gyfartal 5 - 5. Fe aeth C N Emlyn ymlaen i'r rownd derfynol trwy y rheol 'tîm oddi cartref'. Dechreuodd yr ymwelwyr ar dân, gyda'r blaenwyr yn cadw'r bêl yn dda ac yn mynd trwy'r cymalau ac yn agosau at linell cais Llandeilo, ond yn cael ei cosbi a gadael i'r tîm cartref i ddianc. Gwelwyd taclo ffyrnig , gan y ddau dîm, nid oedd llawer o le i olwyr naill dîm na'r llall ddangos ei doniau. Ychydig cyn hanner amser, ar ol pwysau gan flaenwyr C N Emlyn, daeth cais i'r wythwr, Iestyn Davies, a rhedodd yn gryf o 15m er sawl ymgais i'w daclo. Y sgor ar yr egwyl felly oedd 5 - 0 ond daeth Llandeilo yn nol ar ddechrau yr ail hanner, sgoriodd yr asgellwr, ar ol cic dda i'r cornel. Amddiffyn y ddau dîm yn gryf iawn trwy gydol y gêm, tarrodd Llandeilo y postyn gyda cic gosb a taclwyd Peter Thomson llathed o linell gais Llandeilo cyn i'r dyfarnwr chwythu chwyb olaf.
Dyma'r tro cyntaf i'r tîm yma gyrraedd y rownd derfynol, pob lwc iddynt ar 19fed Ebrill yn Nhrimsaran, yno hefyd bydd tîm u13 yn y plat a'r u16 yn y cwpan, pob lwc i'r tri tîm.
Tîm : Dan, Brandon, Ieuan, Dafi, Osian, Steffan, Trystan, Iestyn; Gwylim, Ifan; Peter, Morgan, Hari, Trystan, Dafydd; Jamie, Kester, Connor, Ben
There doesn't appear to be any tagged photos.
Please wait as the server processes your request. Do not attempt to refresh the page.