Noddi Ford ~ Sponsoring a Table

Beth am noddi ford i gael diwrnod i’r brenin gyda’ch ffrindiau/cydweithwyr/cleientiaid?
Mae fordydd ar gael ar gyfer gem y tim cyntaf yn erbyn Clwb Rygbi Aberystwyth RFC ar y 10/10/26, ac ar y 17/10 pan fydd y Dreigiau yn chwarae Llangwm a Clwb Rygbi Ieuenctid Emlyn yn chwarae Carmarthen Quins RFC – Double header go iawn!
Cysylltwch a Emyr i archebu ford – 07977 587142

How about sponsoring a table and enjoying a fantastic day out with your friends, colleagues or clients?
Hospitality tables are available for the First Team’s match against Aberystwyth RFC on 10 October 2026, and on 17 October when the Dreigiau take on Llangwm and Emlyn Youth face Carmarthen Quins RFC – a proper double-header!
Contact Emyr to book your table – 07977 587142.

Platinwm – Platinum

Mae’r clwb yn falch o gyhoeddi ein bod wedi derbyn yr achrediad uchaf posib gan yr Undeb yn dilyn proses genedlaethol ddiweddar. Mae’n diolch i holl aelodau’r clwb a gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud hyn yn bosib. Edrychwn ymlaen nawr at y tymor newydd ym mis Medi.

The club is proud to announce that we’ve been awarded the highest possible accreditation by The Welsh Rugby Union following the recent national process. Our thanks goes to all the club’s members and volunteers who have made this possible. We now look forward to the new season in September.

PWYSIG – IMPORTANT

Gyda chriw newydd yn dod i redeg y clwb ddechrau Awst, ni fyddwn yn derbyn tocynnau diod melyn ar ôl 31 Gorffennaf. Gweler isod gyfleoedd dros yr wythnosau nesaf i chi ddod am beint, ac i ddefnyddio eich tocynnau.

With a new crew taking over the running of the club in August, we won’t be accepting yellow drinks tokens after 31 July. See below opportunities over the coming weeks to visit us for a pint, and to use up your tokens.

Diolch bawb

YELLOW TICKET EXPIRATION 31/07/26