News

16 May 2016 / Team News

Dreigiau yn ennill y dwbwl

Cydweli 9 - C N Emlyn 28

Diwrnod i gofio ar Barc y Scarlets i ail dîm Castell Newydd Emlynw, wrth ennill y cwpan i fynd gyda thlws y gynghrair. Tymor arbennig i'r bois, heb golli gêm yn y gynghrair eleni.

Sgoriodd y Dreigiau 3 cais yn ystod y prynhawn, y cyntaf i'r mewnwr, Rhodri Davies a wnaeth rhedeg 20m i sgorio yn y cornel ar ol toriad gan yr wythwr. Aled Jones. 2 gais ar ol yr egwyl i'r eilydd o gefnwr, Dan (cacs) Davies, y cyntaf o tua 50m ar ol derbyn pas wych gan Alun Howells ar cais olaf ar ol rhediad arbennig gan Gareth Thomson o sgrym ar haner ffordd.

Pôb clôd i Gydweli 'roedd ganddynt dîm cryf ac 'roedd hon yn gêm gyastadleuol dros ben, yn anffodus nid oedd ganddynt rheng flaen, felly chwaraewyd y gêm gyda sgrymiau heb eu cystadlu. Rheng ôl y derigiau, Llyr Evans, Gareth Thomson, Aled Jones a'r eilydd Bleddyn Davies gwnaeth rheoli'r gêm gyda'r canolwyr Alun Howells ac Owen Ffrancis yn gryf wrth ymosod ac yn gadarn wrth amddyffin.  Seren y gêm oedd y maswr ifanc, Llew Morgan a wnaeth rheoli'r gêm yn dda yn ogystal a chicio pwyntiau. Braf oedd gweld yr hen fois yn y rheng flaen, Dai Bryant, Barry Evans a Bedwyr Davies yn mwynhau llwyddiant a phôb clôd i 'r capten Niki Williams a'r rheolwr, Haydn Morgan am arwain y bois trwy gyfnod mor llwyddianus. Gobeithio nawr gall yr ail dîm cael mwy o gêmau cystadleuol y tymor nesaf, mae angen gêmau cyson ar y bois yma.

There doesn't appear to be any tagged photos.

Upload and Tag Photos

Comment
You must be signed in to add comments
Comments
|