News

19 April 2015 / Team News

U14's win Carms Plate

Dathlu mawr yn Nhrimsaran ar ôl i'r tîm dan 14 ennill plat Sir Gâr yn erbyn y Tymbl.  Dafydd Griffiths sgoriodd unig cais y gêm, ar ôl pymtheg munud o'r ail hanner, pan rhedodd tua 40m cyn croesi am gais gwych.  'Roedd amddiffyn Emlyn yn arbennig trwy'r gêm, gyda'r rheng ôl, Steffan, Iestyn a Trystan yn taclo'n gryf ac yn gwthio'r gwrthwynebwyr nol, gwelwyd dwy dacl wych i achub ceisiau gan Dafydd a Peter.  Treiliodd y Tymbl y deg munud olaf ar linell gais Castell Newy' ond nid oedd y bois coch a gwyn an mynd i adael y cyfle i ennill y tlws, i fynd.  Gwelwyd dathlu mawr ar ol i'r dyfarnwr chwythu y chwib olaf. Sgor Terfynol  C N Emlyn 5  Y Tymbl 0.

Tîm : Osian, Brandon, Ieuan, Dafi, Jamie, Steffan, Trystan, Iestyn; Gwylim, Ifan; Peter, Morgan, Trystan, Ben; Kester, Connor, Dan, Ifan Sion

There doesn't appear to be any tagged photos.

Upload and Tag Photos

Comment
You must be signed in to add comments
Comments
|